Matthew 19

Ysgariad

(Mathew 5:31-32; Marc 10:1-12; Luc 16:18)

1Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, gadawodd Galilea a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. 2Cafodd ei ddilyn gan dyrfaoedd mawr, ac iachaodd eu cleifion.

3Dyma ryw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig am unrhyw reswm?”

4Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Duw ar y dechrau? – ‘Gwnaeth bobl yn wryw ac yn fenyw’ a 5a dweud, ‘felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ b 6Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno.”

7Ond dyma nhw'n gofyn iddo, “Ond pam felly wnaeth Moses ddweud fod rhaid i ddyn roi tystysgrif ysgariad i'w wraig cyn ei hanfon i ffwrdd?” c

8“Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau. 9Wir i chi, mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”

10Meddai'r disgyblion wrtho, “Mae'n well i ddyn beidio priodi o gwbl os mai fel yna y mae hi!”

11Atebodd Iesu, “All pawb ddim derbyn y peth, ond mae Duw wedi rhoi'r gallu i rai. 12Mae rhai pobl wedi eu geni'n eunuchiaid, eraill wedi cael eu sbaddu a'u gwneud yn eunuchiaid, ac mae rhai yn dewis peidio priodi er mwyn gwasanaethu teyrnas yr Un nefol. Dylai'r rhai sydd â'r gallu i dderbyn hyn ei dderbyn.”

Iesu a'r plant bach

(Marc 10:13-16; Luc 18:15-17)

13Dyma bobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw.

14Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” 15Ar ôl iddo roi ei ddwylo arnyn nhw, aeth yn ei flaen oddi yno.

Y dyn ifanc cyfoethog

(Marc 10:17-31; Luc 18:18-30)

16Daeth dyn at Iesu a gofyn iddo, “Athro, pa weithred dda sy'n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”

17“Pam wyt ti'n gofyn i mi am beth sy'n dda?” atebodd Iesu. “Does dim ond Un sy'n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i'r bywyd, ufuddha i'r gorchmynion.”

18“Pa rai?” meddai. Atebodd Iesu, “‘Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, d 19gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun’.” e

20“Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd,” meddai'r dyn ifanc. “Ond mae rhywbeth ar goll.”

21Atebodd Iesu, “Os wyt ti am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”

22Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.

23Dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Credwch chi fi, mae'n anodd i rywun cyfoethog adael i'r Un nefol deyrnasu yn ei fywyd. 24Gadewch i mi ddweud eto – mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”

25Roedd y disgyblion yn rhyfeddu wrth ei glywed yn dweud hyn. “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” medden nhw.

26Ond dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”

27Yna dyma Pedr yn ymateb, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni'n ei gael?”

28Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi – pan fydd popeth yn cael ei wneud yn newydd, a Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd hardd, cewch chi sydd wedi fy nilyn i eistedd ar ddeuddeg gorsedd i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. 29Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref, a gadael brodyr a chwiorydd, tad neu fam neu blant neu diroedd er fy mwyn i yn derbyn can gwaith cymaint, ac yn cael bywyd tragwyddol. 30Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”

Copyright information for CYM